Ystad yr Hafod - Canllawiau Mynediad
Mae Partneriaeth
yr Hafod yn credu bod yr Hafod yn fan arbennig iawn ac y dylai fod modd
i'r cyhoedd fwynhau a deall ei thirwedd unigryw;
Yn ogystal bod
cyfrifoldeb ar bawb sydd yn defnyddio'r Hafod, boed fel gweithle, cartref
neu at ddibenion hamdden, i barchu'r safle, ei anifeiliaid a'i phlanhigion,
ac ymwelwyr a phreswylwyr eraill.
Er mwyn sicrhau
y diogelir ac y cynhelir tirwedd yr Hafod ar gyfer y cenedlaethau i
ddod, gofynwn i ymwelwyr ddilyn y canllawiau syml hyn:
1. Cerddwch er
mwyn archwilio'r lle. Dyluniwyd y tirwedd hanesyddol ar gyfer cerddwyr,
ac felly dyma'r ffordd orau o hyd i'w gweld, a bydd yn rhoi'r mwynhad
mwyaf ac yn tarfu llai nag unrhyw ffordd arall.
2. Nodwch y wybodaeth
a gynigir ar bellteroedd a lefel anhawster y teithiau cerdded: nid
yw'r teithiau hirach, mwyaf gerwin yn addas i bawb.
3. Cadwch at
y llwybrau dynodedig: parchwch breifatrwydd y preswylwyr a byddwch
yn ymwybodol o weithgareddau coedwigo a thrafnidiaeth yr ystad.
4. Peidiwch
â chynnau tanau neu farbiciw. Ni chaniateir gwersylla.
5. Dylech gadw
at y coedwig coedwig os am feicio. Gall y sawl sydd yn cyrraedd ar
eu beiciau ac sydd am gerdded yn yr Hafod eu gadael nhw yn Swyddfa'r
Ystad.
6. Rhaid i chi
gael trwydded i farchogaeth (ar y ffyrdd coedwig yn unig) o Swyddfa'r
Ystâd.
7. Gadewch eich
cerbydau yn y meysydd parcio ar y cyrion. Byddwn yn trefnu rhai llefydd
parcio ar gyfer y llai abl ger Swyddfa'r Ystad, ond ni chaniateir
parcio ar hap mewn mannau eraill ar yr ystad.
8. Peidiwch
â dod â cherbydau tir garw na beiciau modur i mewn i ystâd yr Hafod;
mae eu defnyddio yn y cyd-destun hwn yn achosi difrod ac yn waharddedig,
a bydd torri'r rheol hon yn ennyn ymateb chwyrn.
Er lles pawb yn yr Hafod, bydd y rheolwyr yn gwneud eu gorau glas i
sicrhau cydymffurfio â'r canllawiau hyn, bod arwyddion ar gyfer yr holl
lwybrau - llwybrau cyhoeddus a llwybrau trwy ganiatâd - a'u bod yn ddi-rwystr,
a bod gwybodaeth ddiweddar ar fynediad ar gael i ymwelwyr.
Partneriaeth Cadwraeth yr Hafod, Ebrill 2002
|