Gweledigaeth strategol ar gyfer yr Hafod
Er mwyn medru cymrodeddu
dymuniadau'r holl rai hynny sy'n gyfrannog yn yr Hafod, gan gynnwys
y cyhoedd y mae'r prosiect yn bodoli er eu budd, mae Partneriaeth yr
Hafod wedi llunio'r ddogfen bolisi ganlynol:
Crynodeb o bolsii partneriaeth Cadwraeth yr Hafod
- Cefndir.
Un o'r tirweddau Darluniadol mwyaf pwysig yn Ewrop yw Hafod Uchdryd.
Wedi dioddef niwed a dirywiad yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif mae
ar hyn o bryd yn goedwig weithiol, ac yn gartref i drawsdoriad eang
o anifeiliaid a phlanhigion, rhai ohonynt yn brin. Mae hefyd yn hoff
fangre i gerddwyr
- Cydbwysedd.
Bydd sicrhau cadw athrylith yr Hafod er budd y cyhoedd yn golygu cadw
cydbwysedd cynaladwy rhwng amcanion ariannol, gwarchodaeth a mynediad,
tyfiant a dirywiad, cynhaliaeth ac adnewyddiad, gwaith a hamdden,
parhad ac arloesi. Mae Pwyllgor Ymgynghorol yr Hafod yn ffynhonnell
annibynnol o arweiniad ar faterion tebyg
- Tirwedd.
Wrth graidd yr ystad, mae'r Bartneriaeth yn anelu at ail-greu gweledigaeth
Johnes o barc coedwigaeth gweithiol, yn y dull Darluniadol.
- Ecoleg.
Bydd gwerth ac amrywiaeth ecolegol yr Hafod yn cael eu hamddiffyn
a'u cyfoethogi, gyda sylw arbennig i adar Rhestr I, coedwig dderi
uchel-dirol, cennau, broffytau a ffwng
- Treftadaeth
Adeiledig. Bydd adeiladwaith hanesyddol, yn ogystal â nodweddion
naturiol wedi eu haddasu, yn cael eu gwarchod, a - lle maent yn cyfrannu
tuag at y profiad Darluniadol - eu diogelu.
- Mynediad
Cyhoeddus. I gerddwyr sydd a'u bryd ar unigedd cymharol a mwynhad
heddychlon o natur a'r tirwedd, bydd mynediad yn cael ei hwyluso trwy
ailagor llwybrau hanesyddol, lle medrir gwneud hynny yn ddiogel ac
o fewn terfynau defnydd diweddarach y tir.
- Ymchwil ac
Addysg. Bydd arolygon cyfredol, ymchwil, archeoleg a gwerthuso
yn darparu'r sylfaen ar gyfer cynllunio, rheolaeth a gwybodaeth gyhoeddus.
Bydd rhaglen addysgiadol yn cael ei dilyn.
- Ymgynghori
â'r Gymuned.
Bydd y Bartneriaeth yn ymgynghori gyda thirfeddianwyr a chyfranddeiliaid
eraill. Bydd yn cefnogi yr economi a'r gyflogaeth leol yn weithredol,
(gan gynnwys pobl dan hyfforddiant a gwirfoddolwyr), ac yn darparu
cyfleusterau i bobl llai abl ac ar gyfer ehangu sgiliau traddodiadol.
- Ariannu.
Er mwyn cyflawni'r weledigaeth strategol hon bydd angen nawdd ychwanegol
ar y cychwyn, yn seiliedig ar gyfraniad Cronfa Treftadaeth y Loteri.
Hunangynhaliaeth ariannol i'r ystad yw'r gobaith a'r bwriad yn y tymor
hir.
|