Digwyddiadau

Gardd Mrs Johnes, 2009

Yr Ardd yw ffocws prif brosiect 2009 Partneriaeth Hafod.

Fe ddarparwyd cryn swm o’r nawdd ariannol a’r costau rheoli am y cam cyntaf gan y Comisiwn Coedwigaeth: sef, gwaredu coed conwydd o’r ardd, dargyfeirio ffordd y goedwig i ddilyn llwybr arall tu allan i waliau’r ardd, a gwella’r tir lle'r oedd y ffordd yn mynd yn flaenorol.

Bellach mae’r cam yma wedi cael ei gwblhau ac yn ychwanegol mae boncyffion wedi cael eu symud ac uwchbridd newydd wedi cael ei osod. Wrth edrych ar y llun gellir gweld fod y cynllun wedi bod yn llwyddiannus.

Fe fydd y gwaith datblygu ac atgyweirio yn parhau dros fisoedd yr haf. Mae’r llwybrau i gyd wedi ail-agor, er gofynnir i ymwelwyr beidio â cherdded yn yr ardd. Mae yna lwybr arall ar gael tu allan i’r wal, gyda golwg dda o’r ardd.

Gardd Mrs Johnes, 2009

 

Tachwedd 2008

Trefnodd Ymddiriedolaeth Gerddi’r Agoriad ymweliad gan aelodau’r Rhwydwaith Moslemaidd Newydd o Abertawe. Plannwyd castanwydden ger Swyddfa’r Ystad i ddathlu pen-blwydd Tywysog Cymru yn drigain oed.


Ymweliadau Grwp

Mae Ymddiriedolaeth yr Hafod yn croesawu ymweliadau gan bartïon sydd wedi rhag-archebu gan gynnwys ymweliadau gyda'r nos neu dros y penwythnos os y dymunir hynny.

Sgyrsiau

Gall aelodau o staff y bartneriaeth roi sgyrsiau gyda sleidiau ynghylch hanes ac adfer yr Hafod i grwpiau a chymdeithasau.

Chwilio am Hynofiaid?

Gan grant o “Ysbryd y Mwynwyr”, mae’r prosiect yma yn ymwneud â chynnal gwaith ymchwil yn seiliedig ar gofnodion eglwysig yn ardal Cwmystwyth a’r Hafod; cychwyn arolwg o fynwent yr Hafod; cynhyrchu byrddau gwybodaeth; a chodi yn yr egwlys system sgrin gyffwrdd gyfrifiadurol i arddangos y cofnodion a’r wybodaeth i’r gymuned leol ac I ymwelwyr.
Am wybodaeth cyswllt y prosiect: e-mail hafod.estate@forestry.gsi.gov.uk
   Cefnogir Partneriaeth Cadwraeth Yr Hafod gan:
Heritage Lottery Fund Logo Cronfa Dreftadaeth y Loteri
European Union INTERREG IIIA logo Pentir Pumlumon is engaged in a joint marketing project part funded by the European Regional Development Fund through the Ireland/Wales INTERREG IIIA Program. Cydcoed Tir Coed LogoTir Coed EU Project Logo Rhan-arriennir y prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd

  Hawlfraint © 2002-8 Ymddiriedolaeth yr Hafod. Cedwir pob hawl.
Site by Nantinet