|
|||||||||||||||||||
![]() |
Cwestiynau a holir yn fynychC. Fedra' i fynd a'm car i mewn i'r Hafod? A. Dylai ymwelwyr barcio yn y maes parcio ger yr eglwys ar y B4343. Mae yna ychydig o barcio ar gyfer y rhai sy'n llai abl ger Swyddfa'r Ystad ac gardd flodau Mrs Johnes : rhowch ganiad i 01974 282568 am ragor o fanylion. C. A oes yna erddi yn yr Hafod? A. Nag oes, ddim yn yr ystyr arferol. 'Doedd 'na ddim llawer o le i flodau a ffurfiolrwydd yn y Darluniadol..
C. Faint o dirwedd wreiddiol Johnes sydd i'w weld? A. Mae olion o'r rhelyw o'r llwybrau a adeiladwyd gan Johnes i'w gweld o hyd ar y ddaear, er fod rhai rhannau wedi eu dinistrio o ganlyniad i adeiladu ffyrdd diweddarach neu erydiad. Maen rhai llefydd ar hyd y llwybrau gellir gweld rhai o'r coed a blannwyd gan Johnes, gan gynnwys ffawydd ysblennydd. Cysylltir y rhan fwyaf o'r adeiladau gyda'r llwybrau ac mae'r rhain yn cynnwys pontydd gwladaidd, tai haf, ogofau, golygfannau a baddon oer.
Un o dasgau tymor hir a chymhlethach y prosiect yw adfer y tirwedd o gwmpas y rhain - coedydd deri, dolydd, ffriddoedd coediog, ffawydd anferth. C. Pryd losgodd y ty i lawr?
C. Pam gafodd y ty ei ddymchwel? .
C. A ydych chi'n bwriadu ailadeiladu'r ty
A. Na. Buasai dim ond clirio'r safle o rwbel yn hynod o ddrud ac anodd. Fodd bynnag byddwn yn parhau i gadw'r cwestiwn ynghylch "yr hyn y dylid ei wneud gyda'r adfail" ar yr agenda. C. Oes yna arddangosfa ynghylch yr Hafod yn rhywle? A. Ddim eto, er y buasem yn hoffi trefnu un pe bai modd dod o hyd i leoliad addas o'r tu allan i'r safle. Mae Amgueddfa Ceredigion yn arddangos rhai lluniau o'r Hafod ac mae llawer mwy o ddeunydd ar gael yn y casgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Ceredigion (y nail a'r llall yn Aberystwyth). C. Oes yna rhywle i aros yn yr Hafod? A. Hawthorn Cottage/ Pwll Pendre . Mae Cymdeithas Dwristiaeth Pentir Pumlumon yn cadw rhestr lety a bythynnod yn y cyffiniau. C. Beth fedraf i ei wneud i gynorthwyo? C. Beth fedraf i ei wneud i gynorthwyo? A. Mae'r ymddiriedolaeth yn fudiad heb aelodau, ond mae'n cadw rhestr bostio o gefnogwyr sydd, am gyfraniad o £15 y flwyddyn, yn derbyn bwletinau cyson ynghylch datblygiadau, digwyddiadau, cyhoeddiadau ayb. Ewch at y dudalen Sut fedrwn ni gynorthwyo? ac anfonwch e-bost atom er mwyn derbyn ffurflen.
|
||||||||||||||||||
Cefnogir Partneriaeth Cadwraeth Yr Hafod gan:
|